Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Gwobr i Iestyn
Diolch i Goleg Sir Benfro am baratoi lleoliad gwych ar gyfer rownd ranbarthol cystadlaethau De Orllewin “Construction Skills Wales/UK”. Rhannwyd y cystadlu rhwng pum adran, sef, Paentio ac Addurno, Gwaith Coed, Gwaith Bricwaith a Gwaith Plastro i fyfyrwyr flwyddyn gyntaf colegau, ac yna Adeiladwaith i fyfyrwyr o dan un-ar-bymtheg oed, eto o dan ymbarél colegau sirol.
Noddwyd y sector adeiladwaith gan adeiladwyr T.A.D a diolch iddynt am ei cyfraniad haelionus. Beirniad y diwrnod oedd Mr Mark Whitby o “Construction Skills” a Mr Wyn Harries o gwmni “Harries Desgin and Management”. Roedd y gwaith yn arbennig o uchel ar draws y myfyrwyr ond ar ddiwedd y dydd rhoddwyd llwyddiant ysgubol i Goleg Sir Gar gydag Iestyn Owen o Ysgol Bro Myrddin yn derbyn y wobr aur. Gwelwyd Iestyn yn derbyn ei wobr wrth Mr Delwyn Davies o gwmni T.A.D a Mr Roger Sylvester, Swyddog Ymgynghorol Addysg mewn sgiliau Adeiladu. Fe fydd y rownd derfynol o’r cystadlu yn cymryd lle drwy garedigrwydd Coleg Penybont-ar-Ogwr ar 18fed o Fawrth lle fydd pedwar gorau o’r rownd ranbarthol yn cwrdd â rhanbarthau eraill o Gymru gyfan. Pob Lwc i bawb.
Llongyfarchiadau i Siôn Page, o flwyddyn 12, am ennill Gwobr Goffa Delme Evans gan Glwb Roteri Caerfyrddin. Yn ystod blwyddyn 12 mae Siôn wedi gwneud llawer iawn o waith gwirfoddol tu fewn a thu allan i’r ysgol. Roedd y gwaith yn amrywio o beintio adeiladau gorsaf drenau i actio fel corrach. Felly da iawn Siôn!
Llwyddiant arbennig i Ysgol Bro Myrddin!
Mae gan Bennaeth, athrawon a llywodraethwyr Ysgol Gyfun Bro Myrddin hawl i ddathlu wedi arolwg pwysig yn ddiweddar. Ddechrau Rhagfyr ymwelodd tîm o arolygwyr Estyn, sef corff sy’n gweithio dan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, â’r ysgol gan astudio’n fanwl iawn bob agwedd o waith yr ysgol.
Canlyniad tri diwrnod o arolygu yw adroddiad na ellir cael ei well gan unrhyw ysgol yng Nghymru.
Derbyniodd yr ysgol saith UN. Mewn geiriau eraill marciau llawn mewn ymateb i saith cwestiwn allweddol –
· Pa mor dda mae disgyblion yn cyflawni?
· Pa mor effeithiol yw’r addysgu, hyfforddi a’r asesu?
· Pa mor dda y mae profiadau dysgu yn cwrdd ag anghenion a diddordebau disgyblion a’r gymuned?
· Pa mor dda yw’r gofal a’r gefnogaeth i’r disgyblion?
· Pa mor effeithiol yw’r arweinyddiaeth?
· Pa mor dda y mae’r arweinwyr yn gwella ansawdd a safonau?
· Pa mor effeithiol y mae arweinwyr yn defnyddio adnoddau?
Nid ar chwarae bach y mae unrhyw ysgol yng Nghymru yn cael saith UN a dylai’r pennaeth a’r staff fod yn hynod o falch o’r ganmoliaeth a roddwyd ym mhob categori. Canmolwyd safonau’r disgyblion am eu llwyddiannau ysgubol ymhob maes. Nodwyd eu bod yn perfformio uwchlaw lefelau cyfartalog lleol a chenedlaethol.
Llongyfarchiadau
Llongyfarchiadau i Hannah McCarthy am gyrraedd y rownd derfynol yng nghystadleuaeth Cyfansoddwr Ifanc Dyfed.
Codi Arian
Unwaith eto eleni codwyd swm o arian i achos da gan staff yr ysgol wrth iddynt beidio a danfon cardiau Nadolig i’w gilydd. Yr apêl eleni oedd trosi’r Beibl i Braille a chodwyd £175 i’r cynllun.
Taith Adran Gerdd Ysgol Bro Myrddin i weld
y sioe Billy Elliot yn Llundain
Eleni eto fe wnaeth cant o ddisgyblion gwrdd ym maes parcio Halfords am chwarter wedi chwech y bore ar gyfer taith yr Adran Gerdd. Taith hir mewn bws â’r gwresogydd wedi torri oedd o’n blaenau. Roedd yn anghyfforddus o dwym tan i ni gyrraedd Casnewydd pan, drwy lwc a bendith, daeth gyrrwr yr ail fws ymlaen i drwsio’r gwresogydd. Ar ôl hynny gwibiodd y milltiroedd heibio a chyrhaeddom y ddinas fawr cyn pen dim.
Wrth gyrraedd Llundain roeddwn yn pasio’r lleoliadau a’r golygfeydd enwog cyn i ni fedru eu gwerthfawrogi’n llawn. Yna cyfle Mrs.Gibbon oedd hi i arwain ein bws ni at Covent Garden – taith ddiddorol iawn. Roedd pawb yn edrych ymlaen at fod yma, yng nghanol y siopau modern a phoblogaidd, lle roedd rhywbeth at ddant pawb. Y ffefryn eleni oedd y siop ‘Jack Wills’, siop ddillad trendi a ffasiynol dros ben. Roedd bron pawb oedd ar y daith yn awyddus i ymweld â ‘Jack Wills’ ond yn eithaf siomedig i weld pa mor ddrud oedd popeth yn y siop arbennig hon. Fodd bynnag, y profiad o ymweld â siop mor boblogaidd oedd yn cyfri.
Fe aeth ein hamser yn Llundain yn gloi, ond roedd prif bwrpas y daith yn dal o’n blaenau - ein hymweliad â’r sioe ‘Billy Elliot’.
Ymwelom ni â theatr Victoria Palace i weld cynhyrchiad hollol wefreiddiol o ‘Billy Elliot the Musical’. Cyrhaeddodd y bws tu allan i’r theatr ac wrth weld baner y sioe, daeth sgrechfeydd cyffrous o gefn ein bws. Yn y fynedfa, cawsom gyfle i brynu eitemau i gofio’r sioe. Roedd y theatr yn edrych fwy fel palas y tu fewn gyda’i grisiau aur. Wrth gyrraedd yr auditorium, roedd y cyffro yn cynyddu wrth weld y set a’r goleuadau’n diffodd! Roedd y sioe yn werth y trip hir i Lundain, gydag actio, dawnsio a chanu gwych. Roedd Fox a oedd yn actio Billy yn actor ffantastig ac yn gymnast o fri a oedd wedi cynrychioli Llundain ym mhencampwriaeth gymnasteg Prydain, ac roedd hyn yn amlwg yn y golygfeydd dawnsio. Sioe wych gydag amryw o gymeriadau doniol a difyr. Roedd y cyfarwyddo yn ardderchog, sioe werth ei gweld yn bendant! Tybed pa sioe y cawn weld y flwyddyn nesaf??
Adroddiad gan Steffan Cennydd a Llewelyn Hopwood Blwyddyn 9.
Blwyddyn 7 yn mwynhau ‘Horrible Science’ yng Nghaerdydd
Aeth 101 o ddisgyblion a staff fyny’r M4 i flasu dydd o adloniant yng nghwmni gwyddonwyr gwallgof Horrible Science . A dyna oedd sbort! Ond pa mor ‘orrible oedd y sioe yn mynd i fod?
Cyn darganfod ffeithiau erchyll am wyddoniaeth rhaid llenwi bola ac ymweld â siop Cadburys i nôl losin am y sioe. Stop gyflym yng nghanolfan siopa McArthur Glen, Penybont amdani. “Mc Donalds, Mc Donalds, Kentucky Fried Chicken and Pizza Hut!!” Yn debyg i’r gân enwog fe wnaethom fwynhau gwledd o fwyd a diod cyn cychwyn ar ein taith eto i’r Theatr Newydd.
Am 2 o’r gloch cawsom gwrdd â disgybl chwilfrydig o’r enw Billy Miller oedd yn gwybod dim am Wyddoniaeth. Ond ar ôl i’r ‘Super Computer’ reoli’r byd roedd rhaid i Billy achub y blaned trwy ddeall am Facteria, rhannau o’r esgyrn a’r corff, Grymoedd a thrydan! Lwcus roedd disgyblion blwyddyn 7 yno i’w helpu.
Rhan orau’r sioe heb os oedd y ‘Boggle Vision 3D’ yn yr ail ran. Rhaid bod yl Prifathro a Mrs John wedi clywed y sgrech o Fro Myrddin pan fu’r gynulleidfa mewn toiled gyda’r cynnwys yn dod allan atynt yn 3D - Yn bendant nid yw Gwyddoniaeth yn dod yn llawer mwy Horrible na ‘na! Diolch i bawb oedd yn gysylltiedig â’r daith!
Amser i Garu
Cafodd Ysgol Bro Myrddin ei orchfygu gan deimladau o gariad am gwpl o ddyddiau yn arwain at
ddydd San Ffolant. Cafodd pawb y cyfle o allu mynegi eu teimladau trwy brynu rhosyn i’w cariad.
Fe brynwyd y rhosod gan gymorth y Pwyllgor Cymreictod. Fe wnaeth y pwyllgor ariannu'r fenter er mwyn ceisio hybu ‘Caru yn Gymraeg’. Dywedodd is gadeirydd y pwyllgor Sïon Eirion Evans (Bl 12) bod hyn yn ‘gyfle gwych i bawb i fynegi ei teimladau trwy iaith ei mam’.
Roedd y fenter yn llwyddiant aruthrol ac fe benderfynwyd bod yr arian a wnaethpwyd yn mynd i apêl Haiti.
Ymweliad Daniel Jones â gwlad Pwyl Slofacia
Tra bod llawer dros hanner tymor yn manteisio ar y cyfle i ymlacio, stori arall oedd hi i Daniel Jones o flwyddyn 12, taith deg diwrnod i gadarnle Polo Dŵr y Byd. Dechreuwyd yr ymweliad gan dîm Polo dŵr Prydain yn Krakov, Gwlad Pwyl, lle chwaraewyd pedwar gêm dros gyfnod o bedwar diwrnod. Cafwyd gemau anodd iawn yn erbyn Gwlad Pwyl, Belarws a’r Weriniaeth Tsiec, gan ennill un yn erbyn y pencampwyr Belarws ond colli yn y ddwy gêm arall. Roedd y chwarae’n chwyrn, a’r cyrff yn boenus, gyda’r tîm yn gorffen yn y drydydd safle. Diddorol i Daniel oedd sylweddoli bod blaenwr Gweriniaeth Tsiec yn medru’r Gymraeg a chafwyd sgwrs ddiddorol yn y pwll!
Ymlaen i Slofacia, i ganol yr eira, i chwarae gêm arall. Cyfle i ymlacio a gafwyd yn y diwedd gyda’r gêm wedi ei chanslo. Ar ôl wythnos arall o ymarfer aeth y tîm adref, a Daniel wedi dod a chlôd i Gaerfyrddin.
Adroddiad gan Aled Evans.