Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

 


 

Arweinwyr Ifanc:

Cafodd Daniel Jones yr anrhydedd yn ddiweddar i fynd ar gwrs RYLA, sef cwrs Arweinwyr Ifanc wedi ei drefnu gan Glwb Rotari De Cymru. Roedd disgyblion o bob cwr o dde Cymru yn cael cymryd rhan ar y cwrs oedd yn wythnos o hyd. Llenwyd y cwrs gan ystod eang o weithgareddau, oedd yn cynnwys, ymysg rhai eraill, canŵio, mordwyo, a bwyta gymaint o ‘cream crackers’ ag oedd yn bosib mewn dwy funud.  Pwrpas y cwrs oedd i ehangu gorwelion a gwella sgiliau arwain pobl ifanc. Yn ddiweddarach traddododd Daniel araith o flaen Clwb Rotari Caerfyrddin er mwyn diolch a rhoi mewnwelediad i’r clwb am y profiad. Roedd yn ddiolchgar iawn am y cyfle. 



 

Rownd a Rownd yn dod ‘rownd’ i Fro Myrddin:
Yn ddiweddar daeth criw o’r rhaglen deledu Rownd a Rownd ar S4C i ymweld â’r adran Gymraeg i roi rhagflas o’r gyfres newydd i ddisgyblion blwyddyn 8. Yn gyntaf dangoswyd clip o’r gyfres newydd i’r dosbarth a oedd yn dangos cyffro’r gyfres nesaf a fydd yn dechrau ym mis Tachwedd. Yna fe holodd y criw am unrhyw syniadau ar gyfer y storïwyr a phwy a wyr, efallai y gwelwn ni rai o syniadau’r dosbarth yn ymddangos yn y gyfres nesaf! I ddilyn, cafwyd cyfle i ofyn cwestiynau am y rhaglen a’r gwaith tu ôl y camera.  Roedd llawer o gwestiynau gan y dosbarth am bob math o feysydd yn amrywio o’r sgriptiau i’r styntiau. Dysgwyd llawer am y cymeriadau a’r hyn sy’n digwydd tu ôl i’r llenni wrth gynhyrchu’r rhaglen. Yn ogystal, gwnaethant sôn am wefan y rhaglen sy’n llawn gwybodaeth a gweithgareddau ac yn ogystal, mae yna gyfleoedd i ddysgu mwy am weithio ar raglen deledu. Diolch i S4C a’r criw am fore diddorol dros ben. Cofiwch wylio’r rhaglen.

Adroddiad gan Aled Rosser

 

  Taith Addysg Grefyddol i Henllan 2010:

Ar ddydd Iau y 30ain o Fedi, aeth blwyddyn saith ar daith Addysg Grefyddol i wersyll  y carcharorion ym mhentref Henllan ger Castell Newydd Emlyn. Dechreuom ein diwrnod ar daith drên cyffrous er mwyn rhannu'r un profiad a’r carcharorion adeg eu hamser hwy yn Henllan.  Cawsom gyfle i edmygu golygfeydd y dyffryn o ffenestri’r trên.

Ar ôl cyrraedd yn ôl i’r gwersyll, fe arweiniodd Mr John Johnson a Mr Jim Thomas ein grŵp tuag at yr Eglwys. Cyn mynd mewn i’r Eglwys roeddem yn ddigon ffodus i gael  ychydig wybodaeth am y gwersyll ac am yr Eglwys. Dysgom mai Mario Ferlito arluniodd y lluniau a chlywsom am ei hanes.

Roedd Mario Ferlito yn un o’r carcharorion ac un diwrnod  gwelodd un o’r gwarchodwyr ef yn arlunio llun o safon uchel iawn. Ar ôl hyn, dywedodd ef wrth Mario i arlunio lluniau i’r carcharorion ac i’r bobl tu allan y carchar gan fod ei waith yn raenus iawn. Roedd Mario yn ddyn creadigol iawn a phrofwyd hyn wrth i ni ddysgu mai yn hwyr yn y nos yng ngolau cannwyll yr arluniodd y lluniau yma gan gynnwys murlun o’r swper olaf uwch ben yr allor.  I ychwanegu at y rhyfeddod, dysgom mae cynhwysion naturiol fel ffrwythau  planhigion a llysiau oedd yr unig beth a oedd ganddo i greu paent. Roeddem wedi rhyfeddu yn yr Eglwys wrth weld y lluniau arbennig yma. Cawsom dipyn o sioc hefyd pan ddysgom mai allan o duniau “corned beef” roedd y canwyllbrennau wedi cael eu creu.

Ar ôl gadael Eglwys y Carcharorion yn Henllan, dechreuom ein taith yn ôl i Gaerfyrddin, ond cyn hynny cawsom  gyfle i ymweld ag eglwys San Pedr. Cawsom gyfle arbennig i grwydro o amgylch yr eglwys yng nghwmni Mr Lee Richardson. Cawsom lawer o wybodaeth ddiddorol ganddo am holl arteffactau'r Eglwys a beth yw ei defnydd o ddydd i ddydd.

Gwnaethom  fwynhau'r daith yn fawr iawn gan ddysgu llawer. Hoffem ddiolch i’r athrawon a fuodd gyda ni ar y daith ac i’r Adran Addysg Grefyddol am y cyfle i gael ymweld a dysgu llawer am wersyll y Carcharorion Henllan ac Eglwys Sant Pedr.

Adroddiad gan Cai Evans, 7-5.

 



SIOE GERDD

YSGOL GYFUN GYMRAEG BRO MYRDDIN, 2010.

18 ac 19 o Dachwedd

Y garreg ar y clôs

 

Awdur y Sgript – Garry Nicholas

Geiriau’r caneuon – Mererid Hopwood

Y gerddoriaeth – Eric Jones
 

Yn dilyn llwyddiant ein sioe gerdd ddiwethaf ”Cinio am Ddau”, ‘rydyn ni fel ysgol yn falch o gyflwyno ein Sioe Gerdd gomisiwn am eleni. Sioe gyffrous wreiddiol, yr awduron wrth gwrs yn ffrindiau i’r ysgol, Mr.Garry Nicholas yn gyfrifol am y sgript, ein cyn-brifathro Mr. Eric Jones yw cyfansoddwr y caneuon a Dr.Mererid Hopwood yn gyfrifol am eiriau’r caneuon.  Mae’n bleser i ni fel ysgol cyflwyno’u gwaith eleni am y tro cyntaf yn Theatr y Lyric.

 


 

Dewch i gwrdd â disgyblion apathetig yr oes fodern sy’n gwybod dim am hanes eu tref. Dewch ar daith i’r gorffennol i weld y llwgrwobrwyo, y dadlau, y cyffro ar ymladd ar Heol y Gwyddau.

 

Cefndir y sioe yw Etholiad a Therfysgoedd Caerfyrddin 1831. Erthyglau'r “Carmarthen Journal” a’r “Cambrian” yw sbardun y plot. Cawn gwrdd â chymeriadau lliwgar a diddorol, Lord a Lady Paxton, John Jones Ystrad, Capten John Phillips, Cwmgwili, a’r prif gymeriad  Ann sy’n syrthio mewn cariad â dyn sy’n uwch na’i statws.  Pwy sy’n taflu’r garreg, at bwy a pham? Dewch i flasu’n hanes lleol trwy lygad ddoe a heddiw. Mwynhewch.