Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Er Cof: Ddiwedd tymor yr haf cyflwynwyd siec o £400.00 i Elusen Lukemia Research er cof am y diweddar Mrs Sian Johnson.
Llwyddiant yng Nghaerdydd: Er gwaetha’r gwynt a’r glaw roedd hi’n achos dathlu i nifer o Gaerfyrddin yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yng Nghaerdydd. Llongyfarchiadau arbennig i Dr Mererid Hopwood am ennill Y Fedal Ryddiaith ac i’r canlynol am eu llwyddiant hwythau; Gareth Spiers, 3ydd Dawns unigol i fechgyn; Leisa Davies, 3ydd Dawns unigol i ferched; Leisa, Alaw a Lleucu, 3ydd Triawd Stepio; Parti Llefaru, Llwybrau,1af. Braf oedd gweld cymaint o gyn ddisgyblion ar lwyfan yr Eisteddfod yn ogystal. Llongyfarchiadau i bawb!
Uwch-swyddogion: Ar ddechrau blwyddyn ysgol newydd fel hon fe fydd Iestyn Scourfield ac Indeg Jameson yn dechrau ar eu gwaith fel Prif fachgen a Phrif ferch yr ysgol ynghyd â chriw newydd o Uwch Swyddogion. Pob hwyl i’r ddau ac i Gweirydd Davies, Sian Davies, Guto Owen, Teleri Gravelle, Sion Evans, Lowri Elen Edwards, Rhys Edwards, Lowri Tonge, Georgina Edwards a Gruffydd Perks a fydd yn eu cynorthwyo wrth eu gwaith.
Taith newydd: Mae hefyd yn ddechrau newydd sbon i dros gant o ddisgyblion o flwyddyn 7 sy’n dechrau ar eu cyfnod yn Ysgol Bro Myrddin. Rwy’n siŵr y byddant yn ymgartrefu’n fuan iawn yn ein plith.