Newyddion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

 


 

Diwrnod “A Yw’n Deg? Blwyddyn 9”:
Ddydd Iau diwethaf cafodd Blwyddyn 9 ddiwrnod o weithdai amrywiol er mwyn atygyfnerthu eu cwrs Addysg Grefyddol.  Y mudiadau a gymerodd ran oedd Shelter, Tai Hafan, Cymorth Cristrnogol a Chwmni Chwarae teg. Trwy gyfrwng gemau, trafodaeth, gwaith pâr a grŵp tynwyd sylw at y rhesymau dros ragfarn a gwahaniaethu, stereoteipio a chategoreiddio a masnachu’n deg. Unwaith eto roedd y disgyblion yn eu hwyliau wrth iddynt geisio cynrychioli gwledydd gwahanol yn y byd masnach a phethau’n poethi’n aml wrth iddynt sylweddoli’r anghyfiawnderau oedd yn bodoli – a roedd hynny o fewn yr ystafell ddosbarth! Beth am fod allan yn y byd go iawn? Diwrnod llwyddiannus a diolch yn arbennig i’r darparwyr Rhian Jones, Elenor Donnelly, Gemma Littlejohn, Mrs Mary Parry a’r Parch Tom Defis
.
 

Ffair Nadolig 2010:

Agorwyd ein ffair Nadolig yn swyddogol eleni  gan yr actor enwog ac adnabyddus Julian Lewis Jones  ar y 25ain  o Dachwedd. Roedd y neuadd dan ei sang er gwaetha’r tywydd. Bu’r disgyblion ac athrawon yr ysgol yn brysur iawn yn paratoi ar gyfer ei gyfer. Cafwyd stondinau amrywiol gan y pedwar llys sef Hergest, Hengwrt, Llwydiarth a Peniarth,  yn gwerthu canhwyllau, mygs wedi eu llenwi gyda danteithion o bob math, cynnyrch tŷ a stondin gacennau. I ychwanegu at gynnwrf y noson llwyddodd y dyn ei hun, Sion Corn, i ddod draw i weld y plant ac yn wir roedd ganddo lond sach o anrhegion i bob un. Yn ogystal â’r stondinau roedd sawl cystadleuaeth a  gweithgaredd gwahanol yn cael eu cynnal.  Roedd hi’n noson lwyddiannus gyda’r ysgol yn  llwyddo i godi  £3,200 i’w choffrau.

Adroddiad gan Mared Dafydd



 


Taith America Ysgol Bro Myrddin 2010

Chwech o’r gloch ar fore dydd Iau, yr 21ain o Hydref,  ymgasglodd 67 o ddisgyblion yr ysgol a 8 aelod o’r staff, gyda’i pasports yn barod i fentro i Unol Daliaethau’r Amerig.

Ar ôl taith o wyth awr mewn awyren o Heathrow, cyrhaeddasom faes awyr Washington am bump o’r gloch, amser America. Yna bant ac ni i ganol Washington i’n gwesty  o’r enw’r Harrington. Ar ôl trefnu’r ystafelloedd ac ati, cawsom ein pryd o fwyd cyntaf yn America, yn yr Hard Rock Cafe, yng nghwmni cot enwog “Thriller” Michael Jackson.

Yn gynnar bore dydd Gwener, ar ôl cael noswaith dda o gwsg, dechreuasom ar ein taith gerdded gyntaf o amgylch Washington gan ddechrau yn Theatr Ford, lle cafodd yr arlywydd Lincoln ei saethu, ac yna ymweld ag adeiladau’r Llywodraeth; Y Gyngres, Uchel Lys, Union Station, Swyddfa Bost, ac adeilad yr FBI. Ar ôl cael cinio, aethom i Amgueddfa’r Holocaust a oedd yn agoriad llygaid i bob un ohonom. Cawsom gyfle yn y nos i fynd i sinema enfawr gyda 15 sgrin wahanol!

Am naw o’r gloch cyfarfu pawb  i fynd ar ein hantur olaf yn Washington. Aethom ar y ‘metro’, (a oedd yn brofiad brawychus i ddechrau!) i fynwent Arlington ble mai rhai o enwogion America wedi cael eu claddu. Roedd yr ymweliad â’r fynwent yn ddiddorol dros ben ond trist iawn oedd gweld cymaint o filwyr oedd wedi eu claddu yno. Yna cerddasom dros y Potomac (pont enfawr), a mynd i ymweld â chofeb Lincoln, Fietnam, Korea, Yr ail rhyfel byd, ac wrth gwrs, Tŵr Washington. Ar ôl cael ysbaid, a thamaid i fwyta, aethom nôl ar y Metro a chael cyfnod rhydd i siopa yn Pentagon City.

Cyrhaeddodd ein diwrnod olaf yn Washington  ac am saith y bore roedd pawb yn barod gyda’u bagiau i ffarwelio gyda’r ddinas fendigedig. Ond er hynny, roeddwn yn gyffroes i weld mwy o America! Stop nesaf, Philadelphia. Ar ôl taith o ddwy awr a hanner, cawsom gyfle i gael ras. Ie wir, ras i fyny yr enwog “Rocky Steps”!  Cawsom i gyd sioc fawr wrth weld yr athrawon yn rhoi cynnig ar ennill y ras, chwarae teg. Ar ôl cael llawer o hwyl yn gweld y ddinas am dair awr, nôl ar y bws aeth y criw er mwyn mynd i’r afal mawr, Efrog Newydd! Cyrhaeddom ein gwesty, Gwesty’r Bedford, am tua phedwar yr hwyr gyda chynnwrf yn byrlymu, gan ein bod ni nawr yn y ddinas fawr! Yna cerddasom draw i Times Square a oedd yn deimlad afreal a phrysur. Aethom ar ‘Circle Line Cruise’ er mwyn gweld y ddinas o’r afon yn y nos. Roedd yr olygfa yn hollol anhygoel gyda miloedd o oleuadau. Cawsom swper yn ‘Planet Hollywood’ ac roeddem wedi cael ein hamgylchynu gan wisgoedd o nifer o ffilmiau megis Grease, The sound of music, Shreck, a llawer mwy.

Ar ôl noswaith  dda o gwsg, aethom ar metro ac ymweld â gwaelod Manhattan; Wall Street, Pier 17, China Town, Staten Islan Ferry, Statue of Liberty, Ground Zero. Hon oedd y sialens fawr, gan ein bod yn cerdded ymhell dros 20 milltir, dyna beth oedd lladdfa! Hufen ar y gacen oedd cael mynd i fyny i’r Empire State Building, roedd yn noson glir, ac roedd yr olygfa yn rhywbeth byth gofiadwy. Yna cawsom fwyd yn ‘Elen’s Stardust Diner’, dyna beth oedd hwyl, ble roedd gweithwyr y bwyty yn sefyll ar ben byrddau yn canu caneuon o’r 50au ar 60au!

Dydd Mawrth, aethom ar daith gerdded o amgylch canol Manhattan; Cenhedloedd Unedig, Grand Central Terminal, Chrysler Building, Times Square, Madison square gardens,  ac  adeilad Rockerfeller, lle cawsom olygfa anghredadwy o Efrog Newydd yng ngolau ddydd. Ar ôl cael cawod ac ati, cawsom ‘Stretch Limos’ i fynd o’r gwesty i ganol Times Square, i weld y sioe West Side Story. Cawsom lawer o hwyl wrth wneud i Americanwyr gredu mai sêr enwog o Gymru oedd y bechgyn wrth iddyn nhw ddod allan o’r ceir!  Roedd y sioe yn anhygoel, ond trueni am y sain ychwanegol wrth i Mrs Rhian Bowen rochian trwy gydol y sioe! Ar ôl y sioe cawsom gyfnod rhydd i siopa ac i gael bwyd, yn McDonalds!

Ar ôl pacio ein bagiau am y tro olaf, cawsom ychydig o oriau rhydd, i wneud siopa munud olaf yn y siopau mawr, fel Macy’s, Abercrombie and Fitch, American Eagle, Aeropostal, a llawer mwy! Wedi hynny, aethom nôl i’r gwesty i gael ein cyfarfod olaf, cyn mynd ar y bysiau, a ffarwelio ac Efrog Newydd. Doedd neb yn edrych ymlaen at fynd nôl ar yr awyren, ond dyna beth roedd rhaid gwneud am wyth o’r gloch nos Fercher.

Ar ôl taith o saith awr a hanner mewn awyren o Efrog Newydd, cyrhaeddom nôl, yn Heathrow am naw o’r gloch y bore.

Hoffwn ddiolch o waelod galon, ar ran yr holl ddisgyblion aeth ar y daith, i’r athrawon am roi’r cyfle i ni fynd ar y gwyliau byth gofiadwy yma. Hoffwn ddiolch yn arbennig i Dr Huw Griffiths am drefnu’r daith ac am lwyddo i wneud tasg a ymddangosai’n amhosibl – sef dangos cymaint o’r wlad i ni mewn saith niwrnod.

Adroddiad gan Sioned Evans