Ffarwelio: Gyda thristwch ffarweliwyd â thri aelod o staff ddiwedd y tymor: Mr Howard Jenkins pennaeth yr Adran Dylunio a Thechnoleg a wasanaethodd yr ysgol am 22 o flynyddoedd, Dr Rhodri Thomas fydd yn ymgymryd â swydd pennaeth Adran Cemeg Ysgol Uwchradd Aberteifi a Miss Meinir Wyn Jones fu’n cyflenwi yn yr Adran Ddrama dros gyfnod mamolaeth. Diolchodd y pennaeth, Mr Dorian Williams i’r tri yng ngwasanaeth Nadolig yr ysgol gan ddymuno’n dda iddynt.
Tlws Peirianneg: Llongyfarchiadau i griw o ddisgyblion Blwyddyn 9 dan ofal Mr Howard Jenkins fu’n cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Sgiliau Peirianneg 2006 Coleg Sir Gâr. Cyflwynwyd tlws a thystysgrifau i’r canlynol am adeiladu car: Iwan Howells, Thomas Lewis, Glen Elsdon, Rhydian Phillips, Rhys Schiavone, Ifan Johnston, Tom Evans, Gruffudd Thomas, Daniel Morgan, Euros Anthony, Tomos Jones-Davies, Iwan Davies, Siôn Davies, Rhodri Evans a Shane Breese.
Panto: Perfformiwyd pantomeim i ddiddanu’r disgyblion iau gan ddisgyblion Blwyddyn 12 ddiwedd y tymor. Mawr oedd y sbri pan welwyd Glyn ac Imogen ar eu newydd wedd yn cymryd y prif rannau.
A Yw’n Deg?: Cynhaliwyd diwrnod arbennig “A Yw’n Deg?” i Flwyddyn 10 yr wythnos hon fel rhan o astudiaeth y Cwrs Byr TGAU mewn Addysg Grefyddol. Eleni croesawyd y Parch. Tom Defis a Mrs Eirian Samuel ar ran cymorth Cristnogol, Mrs Ann Evans i sôn am ei hymweliad â Lesotho, Miss Rhian Jones ar ran Shelter Cymru a Mr Anthony Edwards ar ran Mudiad Achub y Plant. Yn ystod y dydd codwyd ymwybyddiaeth y disgyblion o ragfarn a gwahaniaethu yn y gymdeithas, HIV/AIDS, digartrefedd, tlodi a chyfoeth byd-eang a’r holl broblemau a ddaw yn eu sgil. Braf oedd clywed ymateb cadarnhaol y disgyblion ar ddiwedd y dydd a’r ffordd yr oeddent yn diolch i’r cyfranwyr am eu goleuo mewn ffyrdd bywiog a diddorol.