Newyddion Ysgol Bro Myrddin - Hydref 5ed


Mae dysgu am ddinasyddiaeth yn rhan bwysig o’r cwricwlwm ehangach a chafodd disgyblion Blwyddyn 9 brofiadau fyddai’n ehangu eu gorwelion yn ddiweddar. Trefnwyd taith iddynt i’r Cynulliad Cenedlaethol ac i’r
Gurdwara yng Nghaerdydd. Yn adeilad Glanfa’r Cynulliad cawsant gymryd rhan mewn gweithgareddau fyddai’n rhoi gwybodaeth iddynt am drethi, cyllid a gwariant ynghyd â chyfle i bleidleisio. Cawsant hefyd ymweld â’r adeilad newydd a gweld yr ystafelloedd lle cynhelir cyfarfodydd. Yna ymlaen i’r Gurdwara a dyma oedd gan Steffan Griffiths, un o’r disgyblion i’w ddweud am yr ymweliad hwnnw: “Fel rhan o’n cwrs Addysg Grefyddol ymwelsom â Gurdwara lle mae pobl Sikh yn addoli ac roedd yn brofiad anhygoel. Ar ôl cael hanes y lle a’r grefydd  cawsom ein paratoi ar gyfer beth yr oeddem yn mynd i’w weld cyn mynd i fyny’r llofft i’r brif neuadd i weddïo.

Roedd rhaid tynnu’n hesgidiau, golchi’n dwylo a gwisgo penwisg a gweddïo o flaen y Guru Granth Sahib, eu llyfr sanctaidd a chyfrannu arian i’r bocs trwy weddïo am beth roeddech eisiau. Roedd rhaid cyffwrdd wedyn bedair ochr y llwyfan. Buom yn ffodus i glywed y “Granthi” sef y dyn oedd yn arwain y gweddïau. Roedd yn darllen o’r Guru Granth Sahib bob dydd. Chwifiai’r “Granthi” y ‘Chauri’ dros y llyfr er mwyn dangos parch tuag ato. Defnyddir y Chauri yn yr India er mwyn cadw’r clêr i ffwrdd.

Cawsom fwy o hanes sut y dechreuodd Sikhaeth tra oeddem yn eistedd ar liain ar lawr. Tuag at y diwedd fe wnaeth y ‘Granthi’ ganu gweddïau tra oedd y Sikh cyffredin yn chwarae’r ‘Tabla’ sef drymiau.

Aethom lawr llawr i gael pop a bisgedi wedyn ac ar ôl diolch iddynt, cychwynnom ar ein taith adref. Mwynheais y trip yn fawr iawn a dysgais lawer o bethau.”