Newyddion Ysgol Bro Myrddin

Rygbi:  Byddai cael hyfforddiant gan ddau o gewri rhyngwladol y byd rygbi yn ddim  ond breuddwyd i'r rhan fwyaf o gryts ysgol, ond i nifer o fechgyn Ysgol Bro  Myrddin, bu hyn yn brofiad real iawn yn ystod yr wythnosau diwethaf. Stephen  Jones a Dwayne Peel fu yma yn cael eu ffilmio mewn sesiynau hyfforddiant ar  gyfer y rhaglen Rygbi Cant y Cant gyda Sarra Elgan yn cyflwyno. Mae Stephen  wrth gwrs yn gyn-ddisgybl a dangosodd ei dalent ar y cae rygbi yn gynnar  iawn. Tra oedd yma'n ffilmio, cyflwynodd y crys a wisgodd fel Capten Tîm  Ysgolion Cymru i'r ysgol ac fe'i gosodwyd mewn ffrâm  ar wal y cyntedd. Diolch i Mr Alan Roberts am ei waith crefftus yn llunio'r  câs gwydr.

Pwyllgor Rhieni:  Mae'r pwyllgor wedi bod yn weithgar yn ystod y flwyddyn yn codi arian ac yn  ei wario er budd y disgyblion. Felly, dewch i gefnogi gweithgaredd fydd yn  addas i'r teulu cyfan, sef  Helfa Drysor  fydd yn cychwyn o flaen  yr ysgol ar Fehefin 29 rhwng 6.00 a 7.00 yr hwyr. Bydd yn gyfle da i gael  pryd o fwyd a chymdeithasu ar y diwedd. Bydd y cliwiau'n ddwyieithog.

Offerynnol:  Mae llwyddiannau Catrin Price,  disgybl ym Mlwyddyn 8, mewn cystadlaethau offerynnol yn lluosog iawn erbyn  hyn. Yn ddiweddar, enillodd gystadleuaeth Cerddor Ifanc y Rotari yn  Aberhonddu gan ennill gwobr ariannol o £250 a chwpan enfawr i'w gadw am  flwyddyn. Cafodd wahoddiad hefyd i roi  cyngerdd yng nghynhadledd y Rotari yn Torquay yn yr Hydref.

Y Delyn:  Fis Gorffennaf, bydd Symposiwm Ewropeaidd y Delyn yn dod i Gaerdydd. Er mwyn  hyrwyddo'r ŵyl , trefnodd telynorion yr ysgol wasanaeth arbennig. Mae tri  chwarter telynorion Ensemble telynau'r Sir, a dwy o'r pedwar sydd yng  Ngherddorfa Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn dod o Ysgol Bro Myrddin.