Llwyddiant Cenedlaethol: Llongyfarchiadau gwresog i bum cerddor addawol o Ysgol Bro Myrddin sydd wedi llwyddo i ennill eu lle yng Ngherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Hon fydd yr ail flwyddyn i Helen Roberts sy’n canu’r ffidil a bydd ei chwaer Clare Roberts a Sioned Powell yn ymuno â hi yn yr adran linynnol. Gwelir bod cynrychiolaeth dda o delynorion yr ysgol wedi’u dewis hefyd, sef Rhys Jones ac Anne Denholm. Bydd yr offerynwyr yn mynychu cwrs ddechrau Awst ac ar gais Lady Walton, gweddw’r diweddar Syr William Walton, byddant yn perfformio symffoni ei gŵr yn eu fila yn Ischia, Yr Eidal yn ystod gwyliau’r haf. Bydd Catrin David –Jones, athrawes ffidil Ysgol Bro Myrddin yn dysgu ar y cwrs ac yn cadw llygad arnynt.
Cerddorfa’r Tair Sir: Cafodd nifer o ddisgyblion yr ysgol eu dewis i fod yn rhan o gerddorfa’r Tair Sir. Yn eu plith bydd Helen Roberts, Elin Powell, Sioned Powell, Gweirydd Davies, Hawys Freeman, Ffion Bevan a Clare Roberts yn canu’r ffidil a Nia Bevan a Hanna Hopwood yn canu’r soddgrwth. Llongyfarchiadau iddynt i gyd a phob llwyddiant iddynt yn y dyfodol.